Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Hydref 2018
Amser:
09.00 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5130
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC Nick Ramsay AC David Rees AC Llyr Gruffydd AC Helen Mary Jones AC |
Tystion: |
Suzy Davies AC, Comisiynydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio Emma Williams, Llywodraeth Cymru Huw Charles, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Laurie Davies, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Agorodd y Clerc y cyfarfod a galwodd am enwebiadau i ethol cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn a hyd nes yr etholir cadeirydd parhaol.
1.2 Enwebwyd Llyr Gruffydd gan Mike Hedges, ac fe'i hetholwyd yn gadeirydd dros dro.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC. Roedd Llyr Gruffydd yn bresennol ar ei ran.
1.5 Roedd Helen Mary Jones AC yn bresennol yn y cyfarfod gyda chaniatâd y Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AC, sef y Comisiynydd dros y Gyllideb a Llywodraethiant; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20.
3.2 Cytunodd Comisiwn y Cynulliad i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu:
· rhagor o fanylion ar brosiectau penodol sy'n flaenoriaeth ar gyfer 2019-20; a
· ffigurau ar gyfer absenoldebau salwch ers mis Mawrth 2018.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio; Emma Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru; a Huw Charles, Rheolwr Bil, Llywodraeth Cymru ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru; a Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
10.1 Trafododd y Pwyllgor y papur gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch caffael gwasanaethau archwilio allanol i Swyddfa Archwilio Cymru a chytunodd ar y cyflenwr a argymhellir, sef RSM Tenon.